Pedrapassel






DISGRIFIAD:
Daw Quadrapassel o'r gêm glasurol cwympo-bloc, Tetris. Nod y gêm yw creu llinellau llorweddol cyflawn o flociau, a fydd yn diflannu. Mae'r blociau'n dod mewn saith siâp gwahanol wedi'u gwneud o bedwar bloc yr un: un yn syth, dau siâp L, un sgwâr, a dau siâp S. Mae'r blociau'n cwympo o ganol uchaf y sgrin mewn trefn ar hap. Rydych chi'n cylchdroi'r blociau ac yn eu symud ar draws y sgrin i'w gollwng mewn llinellau cyflawn. Rydych chi'n sgorio trwy ollwng blociau'n gyflym a chwblhau llinellau. Wrth i'ch sgôr fynd yn uwch, rydych chi'n lefelu i fyny ac mae'r blociau'n cwympo'n gyflymach.

