Cyfrifiannell GNOME





DISGRIFIAD:
Mae Calculator yn gymhwysiad sy'n datrys hafaliadau mathemategol ac mae'n addas fel cymhwysiad rhagosodedig mewn amgylchedd Penbwrdd.
Beth yw Cyfrifiannell:
- Offeryn ar gyfer cyfrifo hafaliadau mathemategol
- Yn defnyddio nodiant mathemategol safonol lle bo modd (felly nid oes rhaid i ddefnyddwyr ddysgu'r rhaglen pan fyddant eisoes yn gwybod mathemateg)
- Digon hawdd i'w ddefnyddio ar gyfer mathemateg syml (adio, tynnu, lluosi, rhannu)
- Digon pwerus ar gyfer mathemateg lefel ganol (ond nid ar draul bod yn hawdd ar gyfer mathemateg syml)
- Cyflym i'w lwytho ac ymatebol i fewnbwn
- Maint priodol i ffitio i gydraniad sgrin safonol (e.e. gwelyfrau)
- Yn gwbl hygyrch
- Wedi'i ddogfennu'n dda
- Wedi'i integreiddio i Benbwrdd GNOME
Beth sydd ddim yn Gyfrifiannell:
- Nid yw'n efelychu unrhyw ryngwynebau cyfrifiannell, caledwedd na meddalwedd presennol (defnyddiwch y cyfrifianellau hynny os ydych chi eisiau'r ymddygiad hwn)
- Nid yw’n arf pŵer i fathemategwyr proffesiynol (dylai gweithwyr proffesiynol ddefnyddio cymhwysiad arbenigol)
- Nid yw'n iaith raglennu (dylai rhaglenwyr ddefnyddio iaith raglennu)

