VLC


DISGRIFIAD:
Mae VLC yn chwaraewr amlgyfrwng traws-lwyfan ffynhonnell agored am ddim ac yn fframwaith sy'n chwarae'r rhan fwyaf o ffeiliau amlgyfrwng yn ogystal â DVDs, CDs Sain, VCDs, a phrotocolau ffrydio amrywiol.
Syml, cyflym a phwerus
- Yn chwarae popeth - Ffeiliau, Disgiau, Gwegamerâu, Dyfeisiau a Ffrydiau.
- Yn chwarae'r mwyafrif o godecs heb fod angen pecynnau codec – MPEG-2, MPEG-4, H.264, MKV, WebM, WMV, MP3…
- Yn rhedeg ar bob platfform - Windows, Linux, Mac OS X, Unix, iOS, Android…
- Yn hollol rhad ac am ddim - dim ysbïwedd, dim hysbysebion a dim olrhain defnyddwyr.
- Ychwanegu crwyn.
- Creu crwyn gyda golygydd croen VLC.
- Gosod estyniadau.

