Sudoku



DISGRIFIAD:
Gêm resymeg Japaneaidd yw Sudoku a ffrwydrodd mewn poblogrwydd yn 2005.
Cafodd GNOME Sudoku ei raglennu yn Python yn wreiddiol gan Thomas Hinkle, er ei fod wedi cael ei ailysgrifennu ers hynny. Mae i fod i gael rhyngwyneb mor syml ac anymwthiol â phosibl tra'n dal i ddarparu nodweddion sy'n gwneud chwarae Sudoku anodd yn fwy o hwyl.
Nodweddion:
- Mae'r bwrdd a'r rhifau yn newid maint yn awtomatig pan fyddwch chi'n newid maint y ffenestr.
- Mae'n hawdd llywio'r gêm o'r bysellfwrdd - gallwch ddefnyddio bysellau saeth i symud o gwmpas ac yna teipiwch y rhif i lenwi'r bwrdd.
- Mae'n hawdd chwarae'r gêm gyda'r llygoden. Bydd clicio ar sgwâr yn ei amlygu. Bydd clicio ar y sgwâr eto yn dangos grid i chi gyda'r rhifau 1 i 9; gallwch chi glicio ar rif i'w ddewis.
- Gallwch ychwanegu nodiadau neu “glustnodau” at sgwariau yn hawdd trwy dde-glicio, neu gyda'r bysellfwrdd trwy glymu rhif wrth ddal Control.

